ICT TRAINER
GRADE 8, Salary: £30,296 – £31,364
Full Time – Monday to Friday – 37 hours/week
Post Number: 503265
The above permanent vacancy has arisen within the ICT Department of the South Wales Fire and Rescue Service Headquarters based at Forest View Business Park, Llantrisant.
Technology is a critical component in how South Wales Fire and Rescue Service support the delivery of its day-to-day activities.
Whether it’s mobilising our crews to operational incidents, ensuring they have access to risk critical information, or supporting back-office functions in the management and control of our resources, technology touches every part of our Service.
The successful applicant will support the implementation of the ICT Strategy through providing training and technical support for all aspects of ICT. They will design and deliver appropriate training to staff using various delivery methods including classroom, workshops, one-to-one tuition, e-learning delivered at any site within the Service.
Applications are invited from candidates with suitable experience as outlined in the Person Specification. The successful candidate may be subject to a satisfactory Disclosure & Barring Service criminal record check and may be required to undertake a Drug and Alcohol Test prior to an appointment being made.
We are a family friendly organisation, and a flexible working system is in operation. To see the benefits of working with us, please visit: https://www.southwales-fire.gov.uk/working-with-us/benefits/
Please note that this is a highly competitive process and only those who have fully demonstrated evidence against all the essential criteria on the person specification will go forward to the Selection Process.
All documentation is available in both Welsh and English, and we welcome communication in either language. Applications submitted in Welsh will not be treated less favourably. Candidates successful at the Shortlisting stage will be given the opportunity to confirm their language preference for interviews and assessments (including paperwork, verbal introductions, and interview questions). Arrangements will be confirmed following invitation to interview and may include Translation and/or Simultaneous Translation.
Application Forms should be completed online though our e-recruitment system, which can be accessed via our website: https://www.southwales-fire.gov.uk/working-with-us/latest-vacancies/
If a paper version is required, please email: personnel@southwales-fire.gov.uk
All internal applicants applying should apply via their COREHR portal, selecting ''Current Vacancies'' from the left- hand tab. Please note this does not currently apply for RDS vacancies.
The closing date for receipt of application forms is 04/02/2025 at 12:00 midday. Previous applicants within 6 months need not apply.
South Wales Fire and Rescue Service believes in the real value of having a diverse workforce and we proactively want to encourage applicants from all sectors of our community to apply.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------
HYFFORDDWR TGCh
GRADD 8, Cyflog: £30,296 – £31,364
Llawn Amser – Dydd Llun i Ddydd Gwener – 37 awr/wythnos
Rhif Post: 503265
Mae'r swydd wag barhaol uchod wedi codi o fewn Adran TGCh Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym Mharc Busnes Forest View, Llantrisant.
Mae technoleg yn rhan hanfodol o'r modd y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ei weithgareddau o ddydd i ddydd.
P’un a yw’n ymwneud ag ysgogi ein criwiau i ddigwyddiadau gweithredol, sicrhau bod ganddynt fynediad at wybodaeth risg hollbwysig, neu gefnogi swyddogaethau cefn swyddfa wrth reoli ein hadnoddau, mae technoleg yn cyffwrdd â phob rhan o’n Gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi gweithrediad y Strategaeth TGCh trwy ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth dechnegol ar gyfer pob agwedd ar TGCh. Byddant yn dylunio ac yn cyflwyno hyfforddiant priodol i staff gan ddefnyddio dulliau cyflwyno amrywiol gan gynnwys ystafell ddosbarth, gweithdai, hyfforddiant un-i-un, e-ddysgu a ddarperir ar unrhyw safle o fewn y Gwasanaeth.
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad addas fel yr amlinellir ym Manyleb y Person. Mae’n bosibl y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad cofnod troseddol boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac efallai y bydd yn ofynnol iddo ymgymryd â Phrawf Cyffuriau ac Alcohol cyn penodi.
Rydym yn sefydliad sy’n ystyriol o deuluoedd, ac mae system gweithio hyblyg ar waith. I weld manteision gweithio gyda ni, ewch i: https://www.decymru-tan.gov.uk/gweithio-i-ni/buddion/
Sylwch fod hon yn broses hynod gystadleuol a dim ond y rhai sydd wedi dangos tystiolaeth lawn yn erbyn yr holl feini prawf hanfodol ar y fanyleb person fydd yn mynd ymlaen i'r Broses Ddethol.
Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac rydym yn croesawu gohebiaeth yn y naill iaith neu'r llall. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus ar y cam Llunio'r Rhestr Fer yn cael y cyfle i gadarnhau eu dewis iaith ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau (gan gynnwys gwaith papur, cyflwyniadau llafar, a chwestiynau cyfweliad). Bydd trefniadau’n cael eu cadarnhau yn dilyn gwahoddiad i gyfweliad a gall gynnwys Cyfieithu a/neu Gyfieithu ar y Pryd.
Dylid llenwi Ffurflenni Cais ar-lein trwy ein system e-recriwtio, y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan:
https://www.decymru-tan.gov.uk/gweithio-i-ni/swyddi-gwag-diweddaraf/.
Os oes angen fersiwn papur, e-bostiwch:
personnel@decymru-tan.gov.uk
Dylai pob ymgeisydd mewnol sy'n gwneud cais wneud cais trwy eu porth COREHR, gan ddewis ''Swyddi Gwag Cyfredol'' o'r tab ar y chwith. Sylwch nad yw hyn yn berthnasol ar hyn o bryd ar gyfer swyddi gwag OCDS.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 04/02/2025 am 12:00 ganol dydd. - Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol o fewn y 6 mis diwethaf wneud cais
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn credu yng ngwir werth cael gweithlu amrywiol ac rydym am annog ymgeiswyr o bob sector o'n cymuned i ymgeisio.