Uwch Ddarlithydd Clinigol, Darllenydd neu Gadair/Ymgynghorydd Mygedol ym maes Orthodonteg
Ysgol Deintyddiaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Rydyn ni’n chwilio am rywun a chanddo fedrau ardderchog ynghyd â’r gallu i gyfnerthu ein gweithgareddau craidd trwy ein helpu i roi ar waith strategaeth addysg ein hysgol ac ymuno â ni wrth feithrin y to nesaf o broffesiynolion deintyddol. Trwy arwain a datblygu’r addysgu ym maes orthodonteg, byddwch chi’n ein helpu i lunio’r rhaglenni i ôl-raddedigion fel y bydd ffordd gyfoes a chyfun o ddysgu orthodonteg ar draws y rhaglenni hynny. Fe fyddwch chi’n ymwneud ag addysgu is-raddedigion deintyddol, hefyd.
Bydd cyfle a disgwyl ichi addysgu ôl-raddedigion ac is-raddedigion yn ôl safonau uchel ac ymchwil berthnasol. Bydd y swydd gyffrous hon yn helpu’r staff i gyrraedd eu llawn dwf yn arweinyddion, anelu at ragoriaeth mewn gweithgareddau addysgu ac ysgolheictod, annog pobl eraill i’w hefelychu ac ychwanegu at eu casgliadau ymchwil yn y meysydd mae’r ysgol hon yn ymwneud â nhw.
Fe fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn rhoi cytundeb mygedol priodol i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Campus y Mynydd Bychan, Caerdydd fydd ei ganolfan.
Cynigir swyddi Uwch Ddarlithydd Clinigol, Darllenydd neu Gadeirydd yn ôl cymwysterau a phrofiad yr ymgeisydd a’r meincnodau perthnasol mae Prifysgol Caerdydd wedi’u pennu.
I gyflwyno ymholiadau cyfrinachol ac anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â’r Athro Nicola Innes, Pennaeth yr Ysgol (InnesN@cardiff.ac.uk).
Bydd modd ichi fanteisio ar gytundeb ardderchog ymgynghorwyr yng Nghymru. Mae’r cyflog sylfaenol ar gyfer y swydd hon yn amrywio rhwng £106,000 a £154,760 y flwyddyn.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig sawl budd rhagorol megis 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau’r Banc), cynllun pensiynau lleol, cynllun seiclo i’r gwaith a mentrau teithio eraill, cynnydd bob blwyddyn yn ôl graddfa’r cyflogau ac ati. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio ynddo gan gynnig sawl her wahanol a chefnogi’r Cyflog Byw yn frwd.
Mae’r swydd hon yn un amser llawn (37.5 awr yr wythnos) a pharhaol, ac mae ar gael yn syth.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2025
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
PWYSIG: Tystiolaeth ynglŷn â’r meini prawf
Polisi Ysgol Deintyddiaeth yw defnyddio manyleb yr ymgeisydd yn ffordd allweddol o ddewis ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer. Felly, dylen nhw roi tystiolaeth eu bod yn ateb y meini prawf hanfodol I GYD yn ogystal â’r rhai defnyddiol lle bo angen. Yn rhan o’r ymgeisio, fe ofynnir ichi gyflwyno’r dystiolaeth honno trwy gyfrwng datganiad ategol.
Wrth gyflwyno’r datganiad neu ei atodi i’ch cais, rhaid ei enwi yn ôl cyfeirnod y swydd, sef: 19185BR.
Os na rowch chi dystiolaeth ysgrifenedig eich bod yn ateb pob un o’r meini prawf hanfodol, fyddwn ni ddim yn prosesu’ch cais. Mae croeso ichi gyflwyno CV ynghyd â thystiolaeth o’r fath, hefyd.
Prif ddiben y swydd
Hoffai Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd benodi uwch academydd clinigol brwdfrydig i arwain ei haddysg a’i hymchwil ym maes orthodonteg. Ar y cyd â staff orthodonteg, bydd y sawl a benodir yn rhoi gwasanaethau orthodonteg rhagorol o dan adain ymgynghorwyr, gan gydarwain a hyrwyddo gwella a datblygu Gwasanaeth Deintyddol Orthodonteg. Fe fydd yn arwain ac yn datblygu’n strategol yr addysgu i ôl-raddedigion yr ysgol a’r Brifysgol gan ofalu bod ffordd gyfoes a chyfun o gyflwyno’r pwnc. Mae disgwyl iddo addysgu ôl-raddedigion ac is-raddedigion yn rhagorol yn ôl yr ymchwil berthnasol. Bydd y swydd gyffrous hon yn rhoi cyfle i anelu at ragoriaeth ynglŷn ag addysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud ag orthodonteg. Ar ben hynny, bydd disgwyl i’r sawl a benodir ysgogi pobl eraill i wneud yr un fath. Bydd disgwyl iddo helpu’r adran i ychwanegu at ei hymchwil gan gynnwys goruchwylio prosiectau ôl-raddedigion ac is-raddedigion. Bydd yn rhoi yn yr ysgol arweiniad academaidd a bydd gofyn iddo reoli staff perthnasol yn feunyddiol.
Disgrifiad o’r swydd
Mae nifer o ddewisiadau i’r ymgeisydd llwyddiannus yn ôl ei gymwysterau a’i brofiad megis arbenigo mewn gweithgareddau addysgu ac ysgolheictod neu eu harwain. Ar y llaw arall, gallai ganolbwyntio ar weithgareddau addysgu ac ymchwil. Mae’r disgrifiad o’r swydd isod yn cwmpasu addysgu ac ymchwil fel ei gilydd er ein bod yn rhagweld y bydd disgrifiad mwy penodol i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Cynllun gwaith cyfamserol i ymgynghorydd mygedol
Bydd y cynllun yn pennu dyletswyddau, cyfrifoldebau, oriau ac atebolrwydd ymgynghorydd gan gynnwys y gofal clinigol uniongyrchol, y gweithgareddau proffesiynol ategol ac amryw gyfrifoldebau eraill yn y GIG (megis rheoli). Ynghyd ag adolygiadau blynyddol o’r cynllun, bydd y Brifysgol a’r GIG yn arfarnu gwaith yr academydd clinigol ac yn nodi ei anghenion o ran datblygu fel y bydd modd paratoi cynllun datblygu personol.
Bydd y sawl a benodir yn atebol i’r Cyfarwyddwr Meddygol am faterion proffesiynol ac i Gyfarwyddwr Clinigol Ysbyty Deintyddol y Brifysgol am faterion rheoli.
Cytunir ar gynllun gwaith unigol adeg ei benodi. Dyma enghraifft:
Cynllun gwaith proffesiynolDydd LlunDydd MawrthDydd MercherDydd IauDydd GwenerPC: Sesiwn academaidd
09:00-13:00
1PAGIG: Gweithgarwch proffesiynol
09:00-13:00
1PAGIG: Clinigol (Goruchwylio ôl-raddedigion) Clinig MDT
09:00-13:00
1PAGIG: Clinigol (Goruchwylio is-raddedigion)
09:00-13:00
1PA
GIG: Clinigol (Goruchwylio is-raddedigion)
09:00-13:00
1PAPC: Sesiwn academaidd
14:00-17:00
1PAGIG: Clinigol (trin cleifion)
14:00-17:00
1PAPC: Sesiwn academaidd
14:00-17:00
1PA
GIG: Clinigol (Goruchwylio ôl-raddedigion)
14:00-17:00
1PAPC: Sesiwn academaidd
14:00-17:00
1PA
Cyfanswm: 10 PA
Cadarnheir oriau’r sesiynau mewn trafodaethau gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.
Adolygir y dyraniad 12 mis ar ôl y penodi yn rhan o’r cynllunio gwaith.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Cyfrifoldebau addysgu
Fel a Ganlyn:
- Bod yn gyfrifol am arwain a rheoli rhaglen orthodonteg yr ysgol ar gyfer ôl-raddedigion gan gynnwys ei datblygu a’i chyfuno â rhaglenni eraill i ôl-raddedigion.
- Helpu i addysgu ac asesu ôl-raddedigion ym maes orthodonteg yn ogystal ag addysgu ac asesu is-raddedigion yn y maes hwn yn rhan o raglen Baglor Llawdriniaeth Ddeintyddol.
- Gofalu bod elfennau addysgol a chlinigol rhaglen yr orthodonteg i ôl-raddedigion yn cydblethu fel y gall myfyrwyr ddatblygu’n ymarferwyr hyddysg, medrus a moesegol gan gydweithio ag arweinyddion y rhaglenni eraill i ôl-raddedigion, Cyfarwyddwr yr Dysgu a’r Addysgu, Cyfarwyddwr y Cyrsiau Astudio i Ôl-raddedigion a Chyfarwyddwr yr Asesu a’r Adborth.
- Addysgu myfyrwyr mewn labordai medrau clinigol.
- Ymgymryd â dyletswyddau asesu megis llunio adroddiadau o achosion dychmygol, ysgrifennu cwestiynau, pennu safonau, cynnal arholiadau paratoadol, arholi myfyrwyr ar lafar a chydweithio ag arweinyddion cyrsiau pob blwyddyn yn ogystal â Chyfarwyddwr yr Asesu.
- Dyfeisio ffyrdd arloesol o addysgu a dysgu, gan gynnwys defnyddio fideos, ac arwain addysg trwy gyfrwng technoleg ym maes orthodonteg.
- Addysgu myfyrwyr ym maes orthodonteg trwy amryw ddulliau megis darlithoedd, gwersi tiwtorial, seminarau a goruchwylio clinigol (yn bersonol ac ar y we fel ei gilydd).
- Rheoli trefn arholiadau proffesiynol ar gyfer pynciau orthodonteg.
- Goruchwylio ar eich pen eich hun neu ar y cyd brosiectau ymchwil ôl-raddedigion a meithrin eu medrau ymchwil ac arfarnu beirniadol.
- Cryfhau ysgolheictod yn eich maes trwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill gan gyfrannu at waith clybiau cyfnodolion i wella medrau arfarnu beirniadol y rhai sydd o dan hyfforddiant.
- Cymryd rhan mewn datblygiadau addysgeg sy’n ymwneud â staff iau, ôl-raddedigion ac is-raddedigion trwy brosiectau datblygu, ymchwil ac archwiliadau.
- Cyfrannu at ysgolheictod trwy gydweithio ag unigolion a thimau meysydd eraill yn y brifysgol a’r tu allan iddi.
- Ymgysylltu â gweithgareddau ysgolheigaidd trwy lunio erthyglau cyfnodolion a/neu gynnyrch sy’n cryfhau gwybodaeth am eich maes ynghyd â chyflwyno papurau/posteri ar bynciau ysgolheigaidd ac addysgol mewn cyfarfodydd cenedlaethol a rhyngwladol.
- Cymryd rhan yng ngweithgareddau ehangach yr ysgol megis denu a chyfweld myfyrwyr.
- Cynnal ymchwil sy’n gysylltiedig â grwpiau ymchwil Ysgol Deintyddiaeth a Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd neu ymchwil addysgeg sy’n berthnasol i addysgu a hyfforddi ôl-raddedigion.
- Gofalu bod digon o gleifion yn ôl nifer y myfyrwyr a’r medrau sydd i’w meithrin ar amryw lefelau eu hyfforddiant, gan ofalu bod y rhai sydd o dan hyfforddiant yn cydymffurfio â’r safonau priodol.
Os penodir i rôl Addysgu Clinigol ac Ysgolheictod
- Cynnal ac arwain ymchwil addysgol, arfarnu addysgeg a gweithgareddau ysgolheigaidd gan arwain at ymchwil a chynnyrch o safon.
- Cymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol cenedlaethol a rhyngwladol eraill i ledaenu canlyniadau eich ysgolheictod.
Os penodir i rôl Addysgu Clinigol ac Ymchwil
- Llunio a chynnal rhaglen ymchwil gydweithredol annibynnol arloesol o ragoriaeth ryngwladol sy’n torri cwys ym maes gwasanaethau iechyd.
- Dangos bri rhyngwladol ynglŷn ag ymchwil trwy (er enghraifft) gymrodoriaethau gwadd, papurau sesiynau llawn, aelodaeth o gyrff ymchwil neu broffesiynol rhyngwladol, cynghori neu roi barn arbenigol.
Mae’r disgrifiad o’r swydd yn parhau isod yn adran yr Wybodaeth Ychwanegol
Disgrifiad o’r swydd (parhad)
- Cymryd rhan flaengar ynghylch cael gafael ar nawdd allanol, gan ofalu bod digon i gynnal rhaglen yr ymchwil, a chyhoeddi canlyniadau’r ymchwil honno mewn cyfnodolion rhyngwladol perthnasol y bydd cyfoeswyr yn eu hadolygu.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Os penodir i rôl Addysgu Clinigol ac Ymchwil
- Llunio ymchwil newydd a mentrau i’w hariannu trwy gydweithio â phrosiectau’r GIG.
- Cyfrannu’n gryf at strategaeth Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil Ysgol Deintyddiaeth gan gyhoeddi cynnyrch 3* a 4* cadarn ei effeithiau yn fynych a helpu i lunio astudiaethau o’r effeithiau hynny.
- Goruchwylio myfyrwyr doethuriaeth drwy’r amser gan eu helpu i gyflwyno traethodau cyn pen pedair blynedd a bod yn aelod o banel adolygu’r cynnydd yn ôl yr angen.
- Mentora staff iau ynghylch Fframwaith Rhagoriaeth yr Ymchwil.
- Mentora a chynorthwyo staff ymchwil ar ôl iddyn nhw ennill doethuriaeth.
Dyletswyddau clinigol
Fel a Ganlyn:
- Bod yn un o ymgynghorwyr mygedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro trwy gytundeb.
- Rhoi arweiniad clinigol a chynnal gwasanaeth ymgynghorol ym maes orthodonteg.
- Rhoi gofal clinigol uniongyrchol a chynnal gweithgareddau proffesiynol yn unol â gofynion fersiwn diwygiedig Cytundeb Ymgynghorwyr Cymru.
- Cymryd rhan ym mhroses y cyd-arfarnu a’r adolygiadau o ddatblygu personol.
- Goruchwylio a rheoli staff iau ym maes orthodonteg. Os yw’n briodol, ysgwyddo cyfrifoldeb personol am eu hyfforddiant yn ôl amodau eu cytundebau, hefyd.
- Galluogi staff iau i feithrin diddordeb arbenigol yn rhai o agweddau orthodonteg.
- Gofalu bod digon o staff bob amser i drin cleifion a gofalu amdanyn nhw. Rhaid sefydlu trefniadau parhad triniaeth a gofal cleifion (absenoldeb o achos gwyliau blynyddol, sesiynau academaidd ac ati) trwy ddod i gytundeb â chydweithwyr.
- Bod yn flaengar ynglŷn â datblygu gwasanaethau orthodonteg fel y bo’n briodol, gan ofalu bod cyfarwyddebau a chanllawiau cenedlaethol a rhanbarthol yn rhan o’r arferion a’r cynlluniau lleol.
- Lledaenu gwybodaeth am faterion orthodonteg trwy raglenni addysgol ymhlith ôl-raddedigion ac is-raddedigion y brifysgol hon a phrifysgolion eraill lle bo angen.
- Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy’n ymwneud â gweithgareddau clinigol y GIG gan gadw at holl bolisïau a gweithdrefnau’r gwasanaeth hwnnw.
- Cymryd rhan yn nhrefniadau rheoli ac archwilio orthodonteg ar y cyd â chydweithwyr ac yn unol â pholisi llywodraethu clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd Ysbyty Deintyddol/Ysgol Ddeintyddol y Brifysgol yn rhoi cyfleusterau swyddfa a chymorth ysgrifenyddol ar gyfer y rôl hon.
Mae trefniadau mentora ar gael yn yr ysgol a’r gyfarwyddiaeth. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig rhaglen gyflwyno i ymgynghorwyr newydd, hefyd.
Bydd yn bwysig i’r sawl a benodir gadw golwg ar wybodaeth, deddfwriaeth a datblygiadau yn ei faes. At hynny, byddai disgwyl iddo gydio yn y datblygu proffesiynol parhaus ac anelu at nodau penodol. Mae cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd ar gyfer ôl-raddedigion, hefyd. Fel y gwêl yn dda, gallai’r Cyfarwyddwr Clinigol ganiatáu absenoldeb ar gyfer astudio, addysg a chyrsiau yn unol â pholisi’r Bwrdd Iechyd ar yr amod eich bod yn gofyn amdano ymlaen llaw a bod modd cynnal y gwasanaeth clinigol yn ystod yr absenoldeb. Bydd rhaid rhoi rhybudd o leiaf chwe wythnos ymlaen llaw. Rhaid gofyn am sêl bendith Pennaeth yr Ysgol a’r Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer absenoldeb astudio. Mae cymorth ariannol ar gyfer datblygu proffesiynol parhaus ar gael i unigolion trwy’r GIG a’r Brifysgol.
Manyleb yr ymgeisydd
Bydd Disgwyl i Bob Ymgeisydd Ddangos Yn Eglur Fod Ei Yrfa Wedi Datblygu Yn Ôl Lefel Sy’n Briodol I’r Swydd Mae’n Ymgeisio Amdani:
Meini prawf hanfodol
Pob ymgeisydd (Addysgu Clinigol ac Ysgolheictod AC Addysgu Clinigol ac Ymchwil):
- Gradd Baglor Llawdriniaeth Ddeintyddol (neu gymhwyster cyfwerth), ar gofrestr aelodau cyflawn Cyngor Deintyddol Cyffredinol y Deyrnas Gyfunol ac ar gofrestr aelodau arbenigol y cyngor hwnnw ynghylch orthodonteg gan ddangos medrau clinigol arbenigol ymgynghorydd neu lefel gyfwerth.
- Cymhwyster ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol; doethuriaeth yn y maes o dan sylw neu ddigon o brofiad perthnasol arall ynghyd â thystiolaeth o ddatblygu proffesiynol parhaus. Gallu dangos, cyflawni a goruchwylio gweithdrefnau clinigol ym maes orthodonteg gerbron is-raddedigion ac ôl-raddedigion.
- Enw da trwy’r deyrnas a dechrau ennill eich plwyf ledled y byd mewn maes academaidd (uwch ddarlithydd) yn ogystal â bri cynyddol yn ddarlithydd ac enw hirsefydlog yn gadeirydd ledled y byd o ganlyniad i gyhoeddi papurau lawer o safon mewn cyfnodolion sy’n destun adolygu gan gymheiriaid (yn ôl lefel datblygiad eich gyrfa).
- Gallu dangos gwybodaeth am lywodraethu materion clinigol ac ymchwil a meini prawf arferion clinigol da ynghyd â thystiolaeth o lywodraethu materion clinigol ac ymchwil yn aml.
- Tystiolaeth o brofiad sylweddol ar ôl ymgymhwyso ym maes orthodonteg mewn ysbyty a/neu feddygfa arbenigol.
- Tystiolaeth o’r gallu i reoli, arwain a datblygu gwasanaeth deintyddol arbenigol ynghyd â’r gallu i ddangos gweithdrefnau clinigol arbenigol.
- Hanes hysbys o arwain academaidd yn ôl lefel y swydd rydych chi’n ymgeisio amdani.
Meini prawf hanfodol ychwanegol i ymgeiswyr Addysgu Clinigol ac Ysgolheictod
Fel a Ganlyn:
- Profiad sylweddol o addysgu is-raddedigion ac ôl-raddedigion yn ôl safon uchel ynghyd â hanes hysbys o arwain rhaglenni academaidd.
- Medrau arwain addawol a’r gallu i ddylanwadu ar strategaeth a phrofiad addysgu’r ysgol ynglŷn ag ysgogi staff academaidd/clinigol a myfyrwyr ar bob lefel ac ymgysylltu â nhw.
- Tystiolaeth o’r gallu i gymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i gyfnerthu gweithgareddau’r ysgol.
- Tystiolaeth o arferion proffesiynol mewn sefydliad addysg uwch gydag ymroddiad personol a sefydliadol i broffesiynoldeb dysgu ac addysgu ym maes addysg uwch.
Meini prawf hanfodol ychwanegol i ymgeiswyr Addysgu Clinigol ac Ymchwil
Fel a Ganlyn:
- Arbenigedd hirsefydlog a hanes sylweddol hysbys o ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol ym maes ymchwil.
- Hanes hysbys o gyhoeddiadau cryf eu heffeithiau sy’n addas i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a hanes da o gynorthwyo, llunio ac arwain ceisiadau am nawdd ar gyfer ymchwil.
- Gallu defnyddio canlyniadau ymchwil i sefydlu ‘llwybr eu heffeithiau’ trwy ymgysylltu â’r GIG, y cyhoedd, llunwyr polisïau a budd-ddalwyr eraill.
Meini prawf defnyddiol
Pob ymgeisydd (Addysgu Clinigol ac Ysgolheictod AC Addysgu Clinigol ac Ymchwil)
- Tystiolaeth o gydweithio â’r byd diwydiannol.