Darlithydd Clinigol mewn Addysg Feddygol (Asesu)
Y Ganolfan Addysg Feddygol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Rydyn ni’n awyddus i recriwtio addysgwr meddygol profiadol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu, darparu a gwerthuso rhaglen asesiadau o ansawdd uchel. Bydd gennych gyfrifoldeb am arwain asesiadau cwrs a chlinigol a chewch gyfle i weithredu arloesiadau cwricwlwm i sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yng Nghaerdydd yn rhagori ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Byddwch yn cefnogi’r holl weithgareddau asesu cwrs a chlinigol gan gyflawni rhaglen asesu ar sail ymchwil sy'n cydymffurfio â gofynion cwricwla cyfredol.
Byddwch hefyd yn datblygu ac yn gweithredu technegau a deunyddiau asesu arloesol a phriodol sy'n ennyn diddordeb, dealltwriaeth a brwdfrydedd ymhlith ein myfyrwyr.
Bydd mesurau perfformiad allweddol ar gyfer y rôl yn cynnwys cyflawni sgoriau boddhad cyffredinol o >90% yn yr ACM a >80% o foddhad yng nghategori Asesu ac Adborth Arolwg yr ACM; gan gynhyrchu a gweithredu strategaeth asesu flaengar sy'n mynd i'r afael â gofynion lleol a rheoleiddiol sy'n sicrhau dilyniant ac esblygiad parhaus y cwricwlwm a'i asesiadau.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu at ysgolheictod addysg a datblygu’r gyfadran i wella ansawdd yr addysg feddygol yn y Brifysgol ymhellach.
Rydyn ni’n chwilio am addysgwr meddygol profiadol gyda phrofiad addysgu/asesu perthnasol ac MBBCh. Dylai ymgeiswyr hefyd allu dangos profiad o arweinyddiaeth academaidd ar lefel israddedig neu ôl-raddedig a phrofiad llwyddiannus o weithredu arloesiadau addysgu / asesu, yn gymesur â lefel Darlithydd.
Lleolir y swydd ar safle Parc y Mynydd Bychan.
Mae'r mwyafrif o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau "gweithio cyfunol" ar hyn o bryd, gyda hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o’u cartref ac yn rhannol o gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei benodi.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Mae'r swydd yn rhan-amser, (20 awr yr wythnos), patrwm gwaith i'w gytuno. Mae'r swydd ar gael o 10 Mawrth 2025 am gyfnod penodol tan 9 Mawrth 2026 i gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth.
Cyflog: £45,675 - £79,348 y flwyddyn, pro-rata (Darlithydd Clinigol Gradd D1).
Os hoffech drafod y rôl yn anffurfiol, cysylltwch â: Rebecca Vallender, Arweinydd Asesiadau Meddygol – vallenderr1@caerdydd.ac.uk neu Dr Sue Ensaff – ensaffs@caerdydd.ac.uk
Dyddiad hysbysebu'r swydd: Dydd Gwener, 7 Chwefror 2025
Dyddiad cau: Dydd Sul, 23 Chwefror 2025
Os daw digon o geisiadau i law, mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hyn trwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws eu perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng byd gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Diben y Swydd
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu, darparu a gwerthuso rhaglen asesiadau o ansawdd uchel i gynnig addysg feddygol o'r radd flaenaf i fyfyrwyr, sy'n astudio yn y Ganolfan Addysg Feddygol. Rhagwelir y bydd y rôl hon yn allweddol wrth ddatblygu a sicrhau ansawdd asesiadau clinigol, gan sicrhau bod yr Ysgol Meddygaeth yn barod ar gyfer elfen CPSA yr Archwiliad Trwyddedu Meddygol. Datblygu a darparu addysgu (a gweithgareddau sy'n ymwneud ag addysgu) ar sail ymchwil, gan gynnwys datblygu, darparu a gwerthuso'r Rhaglen Gradd Feddygol israddedig. Goruchwylio a chefnogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a chyflawni dyletswyddau gweinyddol academaidd o fewn y rhaglenni yn ôl yr angen a cheisio rhagoriaeth mewn addysgu ar sail ymchwil ac asesu, ac ysbrydoli a galluogi eraill i wneud yr un peth yn gymesur â'r disgwyliadau academaidd sy'n gysylltiedig â Darlithydd.
Addysgu
- Helpu i sicrhau ansawdd pob asesiad cwrs e.e. glasbrintio, ysgrifennu cwestiynau, hyfforddi a recriwtio cleifion ac archwilwyr.
- Cefnogi gweithgareddau asesu cyrsiau a gwybodaeth – gan gyflawni rhaglen asesu sy'n seiliedig ar ymchwil sy’n cydymffurfio â gofynion cwricwlaidd cyfredol, gan ddatblygu a gweithredu technegau a deunydd asesu arloesol a phriodol sy'n ennyn diddordeb, dealltwriaeth a brwdfrydedd ymhlith myfyrwyr.
- Dod o hyd i gyfleoedd i arloesi a gwella'r cwricwlwm, a mynd ati i’w harwain, gan gynnwys;o Gweithredu unedau addysgu a dysgu newydd a rhaglenni astudio newydd lle y bo'n briodol.
- Datblygu strwythur y modiwlau a'r unedau astudio presennol o fewn rhaglenni a defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella effaith dulliau ac arloesiadau addysgu/pedagogaidd fel y bo'n briodol.
- Adolygu (yn rheolaidd) gynnwys a deunyddiau cwrs, gan eu mapio i fanylebau rhaglen, Deilliannau Dysgu, meincnodau pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a/neu gyrff achredu proffesiynol fel y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- Goruchwylio a hwyluso gwaith academaidd myfyrwyr gan gynnwys myfyrwyr Meddygol israddedig a BSc.
- Rhoi gofal bugeiliol a chymorth academaidd drwy weithredu fel Tiwtor Personol i fyfyrwyr MBBCh.
- Cefnogi'r gwaith o ddarparu agweddau ar yr MBBCh e.e. Dysgu ar Sail Achosion, pan fo'n briodol
Ysgoloriaeth
- Mynd ati i ymgymryd ag ymchwil addysgol, gwerthuso addysgegol a gweithgarwch ysgolheigaidd mewn ffordd briodol, gan arwain at gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion ysgolheigaidd a phroffesiynol o safon, yn unol â lefel Darlithydd
- Cyfrannu at gynadleddau cenedlaethol, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill (i Ddarlithwyr) i rannu canlyniadau eu hysgoloriaeth eu hunain
Arweinyddiaeth
- Cyfrannu at ddatblygu a chyflawni asesiadau clinigol fel darlithydd
- Cefnogi gweithrediad strategaeth asesu'r Ysgol drwy gymhwyso arbenigedd mewn meddwl ac ymchwil addysgegol
- Gwneud y defnydd gorau o'r dechnoleg sydd ar gael gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyrff proffesiynol a statudol
- Cynnig cyfleoedd i staff ddatblygu, a hynny er mwyn gwella sgiliau a gwybodaeth mewn addysgeg, asesu ac adborth dysgu ac addysgu
Mae'r disgrifiad swydd yn parhau dan y pennawd 'Gwybodaeth Ychwanegol'
Disgrifiad Swydd - Parhad
Arall
- Cymryd rhan yng ngweithdrefnau gweinyddu’r Ysgol, gan gynnwys gwaith pwyllgor, a rhoi gofal bugeiliol i fyfyrwyr israddedig Prifysgol Caerdydd
- Sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a dyletswyddau cyfreithiol y Brifysgol yn cael eu rhoi ar waith a bod asesiadau risg priodol yn cael eu cynnal, camau angenrheidiol yn cael eu cymryd a bod y staff yn eich maes chi yn gwbl gyfarwydd ac wedi'u hyfforddi o ran eu rhwymedigaethau Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch a materion ariannol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol, fel sy’n briodol
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella perfformiad
- Ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid (boed yn sefydliadau diwydiannol a masnachol neu yn y sector cyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ayyb), yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau sy’n strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Cyflawni dyletswyddau eraill yn achlysurol nad ydynt wedi’u crybwyll uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y rôl
Sut y byddwn yn eich cefnogi i gyflawni’r rôl hon –
Mae Rhai Pethau y Mae’n Rhaid i Chi Allu Eu Gwneud Cyn y Gallwch Ddechrau’r Rôl Hon (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’ Isod), Ond Gellir Datblygu Eraill Naill Ai Trwy Hyfforddiant, Neu Drwy Brofiad Cyffredinol Yn y Swydd. Rydym Am Eich Cefnogi A’ch Datblygu Unwaith y Byddwch Wedi Dechrau Yn y Rôl Gan Ddefnyddio Cyfuniad O’r Canlynol i Gael y Gorau Ohonoch
- Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
- Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
- Eich cefnogi trwy hyfforddiant a datblygiad sy'n berthnasol i'r swydd a allai fod eu hangen arnoch
- Cynllun mentora
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- MBBCh (neu gyfwerth) a phrofiad proffesiynol perthnasol, gan gynnwys cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol a chymhwyster Ôl-raddedig mewn Addysg / Addysgu neu gymhwyster tebyg (neu brofiad perthnasol)
- Cofrestriad GMC neu gofrestriad cyfatebol priodol yn eu maes ymarfer
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Profiad perthnasol o addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig, gan arddangos arloesedd wrth addysgu a datblygu a dylunio cyrsiau
- Profiad o ddylunio a chyflwyno ystod o asesiadau gwahanol ar lefel israddedig/ôl-raddedig
- Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau adborth i wella perfformiad myfyrwyr
- Enw da am ragoriaeth addysgu, arloesedd addysgol a grymuso/galluogi dysgwyr ym meysydd gwyddoniaeth a meddygaeth
Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm
- Sgiliau rhagorol ym meysydd cyfathrebu, gwaith tîm a TG, gan gynnwys y gallu i ysgogi cydweithwyr, eu cyfarwyddo ac ennyn eu diddordeb; cyflwyno pynciau cymhleth a chysyniadol mewn modd clir a hyderus i eraill, drwy ddefnyddio sgiliau lefel uchel ac ystod o gyfryngau.
- Y gallu i gynnig cymorth bugeiliol ac academaidd priodol i fyfyrwyr, drwy werthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol.
- Y gallu diamheuol i fod yn greadigol, arloesi a gweithio mewn tîm ym maes addysg feddygol
Arall
- Profiad o ddatblygu a galluogi amgylchedd dysgu ac addysgu cynhwysol i fyfyrwyr ac arloesi dulliau addysgu/asesu wrth ddatblygu a dylunio cyrsiau
Meini Prawf Dymunol
- Gwybodaeth arbenigol am bynciau wrth ddylunio, darparu ac asesu cwricwlwm
- Tystiolaeth o allu datblygu rhwydweithiau mewnol ac allanol, a chymryd rhan ynddynt, yn ogystal â’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol
- Profiad diamheuol o fod yn gyfrifol am brosiectau gweinyddol academaidd
PWYSIG – Tystiolaeth o'r Meini Prawf
Mae'n bolisi gan yr Ysgol Meddygaeth i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol lle bo hynny’n berthnasol. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.
Wrth gyflwyno'r ddogfen hon/ei hatodi i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw
19570BR.
Os na fydd ymgeiswyr yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, ni fydd eu cais yn symud ymlaen. Mae'r Ysgol Meddygaeth yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.