Darlithydd / Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Mae Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg Prifysgol Caerdydd yn chwilio am optometrydd cryf eu cymhelliant a blaengar i ddarparu ymarfer clinigol o ansawdd uchel ac addysgu yn y clinig addysgu a thrin glawcoma.
Hoffem glywed gennych os ydych yn optometrydd sydd wedi cofrestru gyda GOC gyda Thystysgrif Uwch neu Ddiploma mewn Glawcoma yn ogystal ag angerdd am addysg gyda'r gallu i ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso ystod o fodiwlau a rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir.
Mae ein Hysgol ar drothwy datblygiad addysg cyffrous gan fod llawer o bobl â chyflyrau llygaid bellach yn cael eu gweld a’u trin gan optometrydd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu talent newydd i'n tîm i helpu i gefnogi'r datblygiad hwn yn ein proffesiwn.
Gallwn roi’r cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych.
Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu cyfeirio, yn y lle cyntaf, at Bennaeth Dros Dro yr Ysgol, yr Athro Barbara Ryan (RyanB@caerdydd.ac.uk).
Cynigir y swydd fel Darlithydd Gradd 7 neu Uwch Ddarlithydd Gradd 8 yn amser llawn neu'n rhan amser (o leiaf 40% o amser/2 ddiwrnod yr wythnos). Cynigir rolau rhan-amser gyda'r prif nod o gynnig y cyfle i'r sawl a benodir i barhau i ymgymryd ag ymarfer clinigol y tu allan i'r Brifysgol.
Cynigir y swydd ar y llwybr gyrfa Addysgu ac Ysgolheictod ac mae'n benagored.
Wrth wneud cais am y swyddi gwag, nodwch y radd a'r oriau gwaith yr hoffech wneud cais amdanynt.
Cyflog:
£50,694 - £55,295 y flwyddyn, pro rata (Gradd 7)
£60,321 – £65,814 y flwyddyn, pro rata (Gradd 8)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 11 Chwefor 2025
Dyddiad cau: Dydd Sul, 23 Chwefror 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng byd gwaith a bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Prif swyddogaeth
Addysgu o ansawdd uchel ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig fel ei gilydd. Goruchwylio myfyrwyr a chyflawni dyletswyddau gweinyddol yn ôl yr angen. Ceisio cyflawni rhagoriaeth mewn ymarfer clinigol, addysgu ac addysgeg ac ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath.
Uwch Ddarlithydd Yn Ychwanegol:
- Arwain a datblygu’r addysgu clinigol a’r ddarpariaeth glinigol ar gyfer glawcoma yn yr Ysgol.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Addysgu
- Cyfrannu at gynllunio a chyflwyno rhaglenni/cyrsiau addysgu ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, a chyfrannu at ddatblygu modiwlau fel rhan o dîm modiwl.
- Cyfrannu’n annibynnol at ddatblygu modiwlau a chyrsiau ac arwain modiwlau.
- Cyfrannu at werthuso rhaglenni ac ymchwil i asesu ansawdd ac effaith addysgu a dysgu, gyda blaenoriaeth ar gyflwyno profiad myfyriwr rhagorol trwy lais y myfyriwr.
- Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod, gan gynnwys gwaith sy’n gysylltiedig ag asesiadau, gosod a marcio asesiadau a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr yn brydlon, gwneud gwaith gweinyddol a chyfrannu at waith pwyllgor.
- Ysbrydoli israddedigion ac ôl-raddedigion gyda’u profiad dysgu dan arweiniad mentor/arweinydd modiwl a datblygu sgiliau ar gyfer dulliau asesu a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr.
- Goruchwylio a helpu i gydlynu gwaith myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys goruchwylio clinigau glawcoma WGOS4 a lleoliadau.
- Bod yn diwtor personol, gan roi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin a sefydlu ymddiriedaeth.
Uwch Ddarlithydd Yn Ychwanegol:
- Goruchwylio optometryddion ar Leoliadau ar gyfer Tystysgrifau Uwch mewn Glawcoma yn y clinigau glawcoma.
- Cynnal rhaglen werthuso ac ymchwil i asesu ansawdd ac effaith yr addysgu a dysgu a gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad rhyngwladol addysgu o'r fath.
Ysgolheictod
- Cyfrannu at ysgolheictod drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill i rannu canlyniadau ysgolheictod unigol.
- Cymryd rhan mewn gweithgarwch ysgolheictod drwy ysgrifennu erthyglau mewn cyfnodolion a/neu sicrhau allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes gwaith.
- Cyfrannu at ysgolheictod drwy waith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt.
Uwch Ddarlithydd Yn Ychwanegol:
Ymgymryd â gwaith ymchwil addysgol, gwaith gwerthuso addysgeg a gweithgarwch ysgolheigaidd, ac arwain y gwaith hwn. Bydd hyn yn arwain at gyhoeddiadau mewn cyfnodolion ysgolheigaidd a phroffesiynol o safon uchel
- Cyfrannu at gynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill ar lefel genedlaethol a rhyngwladol i rannu canlyniadau eich ysgolheictod eich hun.
Arall
- Cyfrannu at weinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt, yn ôl y gofyn gan Bennaeth yr Ysgol neu enwebai.
- Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol; sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o broffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol, i wella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
- Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich perfformiad fel Darlithydd.
- Mentora cydweithwyr llai profiadol a rhoi cyngor ar ddatblygiad personol.
- Gofalu eich bod yn cadw at ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Diogelu Data, Hawlfraint a Thrwyddedu, Diogelwch, Materion Ariannol, a pholisïau, gweithdrefnau, codau a safonau eraill y Brifysgol, fel y bo’n briodol.
- Cymryd gofal am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a phobl eraill y gallai’r hyn y byddwch yn ei wneud neu’n methu â’i wneud yn y gwaith effeithio arnynt, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau'r UE/DU, a Pholisïau a Gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y Brifysgol, yn ogystal â chydweithio â'r Brifysgol i gyflawni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol sydd ganddi yn gyflogwr.
- Sicrhau eich bod yn deallt pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sydd heb eu cynnwys uchod ond sy'n cyd-fynd â'r swydd.
Yn Ogystal, Uwch Ddarlithydd I:
- Ysgwyddo cyfrifoldebau gweinyddol gweithredol a’u harwain, fel sy'n ofynnol gan Bennaeth yr Ysgol neu enwebai.
Arweinyddiaeth - Uwch Ddarlithydd yn unig
- Rhoi arweiniad academaidd a chlinigol yn effeithiol ac yn effeithlon trwy reoli, arwain ac ysgogi staff i gynnig ymarfer ac addysgu clinigol o ansawdd uchel, a hynny mewn diwylliant o wella yn barhaus a chydweithio.
- Cyfrannu at gynllunio strategol mewn perthynas ag addysgu a chlinigau yn yr Ysgol a chyfrannu at brosesau cynllunio strategol ehangach yr Ysgol a’r Brifysgol.
- Arwain ac ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig â darpariaeth addysg yr ysgol.
- Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o broffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at ddarpariaeth addysgol yr ysgol i fyfyrwyr a gwella ei phroffil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Cynnig cyfleoedd i staff ddatblygu, a hynny er mwyn ceisio gwella sgiliau a gwybodaeth ym maes addysgu a dysgu addysgeg, asesu ac adborth.
Rheoli prosiectau ar ran yr ysgol, gan gynnwys trefnu gweithgareddau allanol.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- Wedi cofrestru gyda’r Cyngor Optegol Cyffredinol. Bydd disgwyl i chi gynnal DPP er mwyn sicrhau bod eich cofrestriad GOC yn parhau, a chynnal aelodaeth o Fwrdd Iechyd GIG i ymarfer fel Optometrydd ym Mhrifysgol Caerdydd a/neu glinigau cysylltiedig sy’n delio’n uniongyrchol â chleifion.
- Tystysgrif Uwch mewn Glawcoma neu Ddiploma mewn Glawcoma neu gymhwyster tebyg.
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu a Dysgu Prifysgol a/neu gymhwyster cyfatebol neu barodrwydd i weithio tuag at un.
- Gradd 7: Profiad sylweddol mewn ymarfer uwch mewn Glawcoma Gradd 8: Profiad sylweddol mewn ymarfer uwch mewn glawcoma gydag arweinyddiaeth genedlaethol mewn ymarfer clinigol glawcoma
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Gradd 7: Profiad o oruchwyliaeth glinigol ac addysgu sylweddol ar lefel israddedig/ôl-raddedig, gan ddangos arloesedd. Gradd 8: profiad o addysgu mewn ymarfer clinigol uwch.
- Gradd 7: enw da cenedlaethol cynyddol o fewn y maes academaidd a/neu glinigol. Gradd 8: enw da yn genedlaethol, a chynyddu enw da yn rhyngwladol
- Gradd 7: profiad o ddarparu a datblygu gofal glawcoma uwch o ansawdd uchel Gradd 8: profiad sylweddol o ddarparu a datblygu gofal glawcoma uwch o ansawdd uchel
Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
- Unigolyn dibynadwy, sy’n rhagweithiol, yn hyblyg, gyda sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu rhagorol, ynghyd â pharodrwydd i gyfrannu’n gadarnhaol at addysgu yn yr Ysgol. Y gallu i rannu syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus gyda phobl eraill gan ddefnyddio sgiliau o’r radd flaenaf ac amrywiaeth o gyfryngau.
- Gallu cynnig cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol.
- Y gallu i arwain modiwl a chydlynu ag eraill i ddiwallu anghenion myfyrwyr a bodloni eu disgwyliadau.
Meini Prawf Dymunol
- Diploma mewn Rhagnodi Therapiwtig (Rhagnodi Annibynnol)
- Tystiolaeth o gydweithio â'r sector optometreg.
- Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol ymarfer clinigol a/neu’r gymuned Addysg Uwch.
- Tystiolaeth o’r gallu i gymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr ysgol.
- Sgiliau Cymraeg